Skip to main content
Back to jobs

Non-Executive Members and Chair, Ofcom Advisory Committee for Wales

External
ofcom logoOfcom · Cardiff
Part-timeOn-site2w ago
Cover LetterConnect

Prepare for this interview

Elite

AI-generated questions, company research, and talking points tailored to this role


About the role

Closing Date: 08/06/2026 Group: Corporate Group Management Level: Job Type: Non-Executive Director (Fixed Term) Job Description: Sylwch y bydd y rôl hon yn cau am 00.01 ar 8 Mehefin 2026. Rydym yn bwriadu penodi dau aelod anweithredol i Bwyllgor Cynghori Cymru o 1 Medi 2026. Rydym hefyd yn edrych i benodi Cadeirydd newydd o 1 Hydref 2026. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am rôl y Cadeirydd, dangoswch yn eich llythyr eglurhaol sut rydych chi'n bodloni'r cymwyseddau ychwanegol a amlinellir isod. Sylwch fod sgiliau iaith Cymraeg yn hanfodol ar gyfer un o'r rolau hyn. Pwrpas y rôl Ofcom yw'r rheoleiddiwr annibynnol a'r awdurdod cystadleuaeth ar gyfer diwydiannau cyfathrebiadau'r DU, gyda chyfrifoldebau ar draws teledu, radio, diogelwch ar-lein, gwasanaethau post, telathrebu a gwasanaethau cyfathrebu di-wifr. Mae Pwyllgor Cynghori Cymru yn rhoi cyngor i gydweithwyr Ofcom ynghylch buddiannau a barn pobl sy'n byw yng Nghymru a'i chymunedau amrywiol ar draws ein cyfrifoldebau rheoleiddio. Mae'r Pwyllgor yn ymdrechu i sicrhau bod gwaith Ofcom yn cael ei lywio gan y ddealltwriaeth ehangaf bosibl o brofiad defnyddwyr a dinasyddion yng Nghymru gan gofnodi anghenion unigryw pobl sy'n byw ar draws gwahanol rannau o'r wlad. Mae Aelodau'r Pwyllgor yn rhan-amser ac yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd. Rydym am ddenu amrywiaeth eang o ymgeiswyr i ddarparu cydbwysedd da o sgiliau a phrofiad perthnasol yn y sector, felly mae gennym amrywiaeth o safbwyntiau a chefndiroedd ar y Pwyllgor. Yn ogystal, rydym am i aelodaeth y Pwyllgor adlewyrchu'r ystod o ranbarthau a chymunedau yng Nghymru er mwyn rhoi golwg ddaearyddol a chymdeithasol mor eang â phosibl. Sgiliau/Cymwyseddau Hanfodol I wneud cais i ymuno â'r Pwyllgor, bydd angen i chi ddangos yn eich llythyr eglurhaol sut rydych chi'n bodloni'r cymwyseddau isod. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol o fod yn aelod anweithredol. Disgwylir i ymgeiswyr ddangos: Gwybodaeth a/neu brofiad diweddar mewn un neu fwy o'r sectorau cyfathrebu y mae Ofcom yn eu rheoleiddio, yn enwedig y sector darlledu a'r cyfryngau. Dealltwriaeth o rôl a chyfrifoldebau Ofcom mewn tirwedd wleidyddol gymhleth. Ymwybyddiaeth o Gymru a'i heconomi, ei chymdeithas a'i diwylliant. Y gallu i werthfawrogi a mynegi anghenion a safbwyntiau amrywiol dinasyddion a defnyddwyr yng Nghymru. Mae'r gallu i gyfathrebu'n hyderus yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer un o'r rolau hyn Sgiliau cyfathrebu effeithiol a'r gallu i weithio fel rhan o bwyllgor. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am rôl y Cadeirydd, bydd angen i chi hefyd ddangos yn eich llythyr eglurhaol sut rydych chi'n bodloni'r cymwyseddau isod. Sgiliau cyfathrebu effeithiol, ar lafar ac ysgrifenedig er mwyn llywio ymatebion i ymgynghoriadau. Gweithio ar y cyd ac yn gallu cadeirio cyfarfodydd yn effeithiol. Ymwybyddiaeth o esblygiad technoleg, gwleidyddiaeth ac anghenion newidiol defnyddwyr cyfathrebu yng Nghymru a'u heffeithiau ar benderfyniadau llunio polisi. Gwybodaeth Bellach Mae'r Pwyllgor yn cyfarfod hyd at bum gwaith y flwyddyn, yng Nghaerdydd yn bennaf. Gellir gwneud rhywfaint o waith y Pwyllgor drwy is-grwpiau a chyfarfodydd anffurfiol ychwanegol drwy gydol y flwyddyn. Mae'r ddwy rôl yn cynnwys mynychu cyfarfodydd rhanddeiliaid, galwadau cynhadledd a pharatoi ymatebion i ymgynghoriadau. Yr ymrwymiad amser ar gyfer aelod cyffredinol yw hyd at 12 diwrnod y flwyddyn a'r ffi flynyddol yw £3,000. Mae gan rôl y Cadeirydd ymrwymiad amser o hyd at 24 diwrnod y flwyddyn a'r ffi flynyddol yw £8,400. Telir aelodau anweithredol o dan PAYE. I wneud cais a chael eich ystyried ar gyfer cyfweliad, cyflwynwch eich CV a'ch llythyr eglurhaol drwy wefan Goodson Thomas: https://www.goodsonthomas.com/cy/opportunities Rhaid i'ch llythyr eglurhaol roi tystiolaeth o sut rydych chi'n llwyddo i fodloni'r sgiliau a'r cymwyseddau allweddol. Ni ddylai eich llythyr fod yn fwy na phedair ochr A4 o hyd. Bydd ceisiadau am y rôl yn cau am 00.01 ar 8 Mehefin 2026 a chynhelir y cyfweliadau terfynol ar 7 ac 8 Gorffennaf 2026 yn swyddfa Ofcom yng Nghaerdydd. Y panel cyfweld fydd Syr Clive Jones, Aelod o'r Bwrdd dros Gymru a Chadeirydd y Panel; Philip Henfrey, Cyfarwyddwr Cymru; a Libby Watkins, Aelod Annibynnol o'r Panel. Os oes angen unrhyw addasiadau arnoch, cysylltwch â ni'n uniongyrchol: info@goodsonthomas.com Mae Ofcom yn croesawu ceisiadau am y rolau hyn yn Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg. Rhaid datgan a thrafod gwrthdaro buddiannau posibl neu wirioneddol yn y cyfweliad. Mae'n ofynnol i Aelodau'r Pwyllgor Cynghori weithredu yn unol â'r Cod Ymddygiad ar gyfer Pwyllgorau Cynghori , y mae ymgeiswyr yn cael eu hannog i'w ddarllen. Ni chaiff unrhyw Aelod o'r Pwyllgor gael ei gyflogi'n uniongyrchol gan sefydliadau y mae Ofcom yn eu rheoleiddio neu'u eu trwyddedu na chael y rhan fwyaf o'u hincwm cyflogaeth o gwmni o'r fath hyd yn oed os nad ydynt yn cael eu cyf


Your Match

How well this role fits your profile.

Company Intel

What employees say

Worked at ofcom? Share your experience

Interested in this role?

Apply on the company's website.

Cover LetterConnect